
Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn elusen addysgol gwrth-hiliaeth. Rydym yn gweithio i herio hiliaeth drwy alluogi modelau rôl mewn cymunedau, mudiadau a chwaraeon i ddadosod hiliaeth yn y gymdeithas.
Ein nod ydy byw mewn cymdeithas heb hiliaeth.
Drwy gydol y pecyn hwn, byddwch yn darganfod mwy am y rhaglenni effeithiol rydym yn eu cynnig i ysgolion. Os hoffech chi ragor o wybodaeth, mae croeso ichi gysylltu gydag aelod o’n tîm.
Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda chi’n fuan.
Show Racism the Red Card is an anti-racism educational charity. We work to challenge racism through empowering role models within communities, organisations and sports in order to dismantle racism in society
Our vision is to live in a society free from racism.
Throughout this pack, you’ll discover more about the impactful programmes we offer to schools. If you would like further information, please don’t hesitate to get in touch with a member of our team.
📧 wales@theredcard.org
We look forward to working with you soon.


Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cynnig gweithdai addysgol ac atyniadol i ddisgyblion ledled Cymru, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o hiliaeth, hyrwyddo cyfiawnder, a grymuso pobl ifanc i herio rhagfarn a hiliaeth.
Caiff ein gweithdai rhyngweithiol eu cynnal gan addysgwyr profiadol, gyda deunyddiau yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan sicrhau bod y sesiynau’n ysbrydoledig ac yn effeithiol. Mae pob gweithdy wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ac oedran y grŵp, gan ddefnyddio clipiau cyfryngau, trafodaethau a gweithgareddau i ymdrin â phynciau megis:
Gellir cynnal gweithdai mewn:
✔️ Ysgolion cynradd
✔️ Ysgolion uwchradd
✔️ Unedau Cyfeirio Disgyblion
✔️ Ysgolion Arbennig
✔️ Colegau
✔️ Sefydliadau Ieuenctid
SRtRC offers engaging, educational workshops for pupils across Wales, designed to raise awareness of racism, promote equity, and empower young people to challenge prejudice and racism.
Our interactive workshops are delivered by experienced educators, with materials provided in both English and Welsh, making the sessions both inspiring and impactful. Each workshop is tailored to the needs and age of the group, using media clips, discussion, and activities to explore topics such as:
Workshops can be delivered in:
✔️ Primary schools
✔️ Secondary schools
✔️ Pupil referral units
✔️ Special Schools
✔️ Colleges
✔️ Youth settings
“Ar gychwyn y bore doeddwn i ddim yn deall cymaint am hiliaeth, ond erbyn diwedd y dydd drwy gwblhau’r gweithdy fe wnes i ddysgu mwy am hiliaeth a sut y gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth ac effaith hiliaeth ar gymunedau.”
“At the start of the morning I didn’t understand as much about racism, but by the end of the day by completing the workshop I learnt more about what racism is and how we can all make a difference and the affect racism has on communities.”
Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cynnig prosiectau grymuso disgyblion, yn amrywio o dymor ar lefel cynradd i flwyddyn ysgol gyfan ar lefel uwchradd, gan rannu’r adnoddau gyda’r disgyblion i arwain newid yn eu sefydliad eu hunain. Byddwn yn cydweithio gyda disgyblion dethol sy’n llysgenhadon gwrth-hiliaeth i ffurfio grŵp gwrth-hiliaeth yn yr ysgol. Caiff y grŵp eu cefnogi i godi ymwybyddiaeth o wrth-hiliaeth, cyflawni ymchwil a chynllunio gweithrediadau’n unol â hynny. Byddan nhw’n cwblhau’r prosiect drwy rannu eu gwaith gyda chymuned ehangach yr ysgol.
Nodau’r Prosiect:
Deilliannau’r Prosiect:
✔️ Disgyblion yn gallu adnabod hiliaeth
✔️ Disgyblion yn teimlo’n hyderus yn herio hiliaeth
✔️ Disgyblion yn cymryd camau rhagweithiol i rwystro hiliaeth rhag digwydd yn yr ysgol
✔️ Disgyblion yn teimlo bod llais ganddyn nhw i herio hiliaeth a’u bod yn teimlo wedi’u grymuso i weithredu
SRtRC offers longer-term pupil empowerment projects, ranging from a term at primary level to a whole school year at secondary level, giving pupils the tools to lead change in their own setting.
We will work with select pupil anti-racism ambassadors to create an anti-racism group in school. The group will be supported to raise awareness of anti-racism, carry out research and plan actions accordingly. They will complete the project by sharing their work with the wider school community.
Project Aims:
Project Outcomes:
✔️ Pupils can recognise racism
✔️ Pupils are confident to challenge racism
✔️ Pupils take pro-active steps to stop racism arising within school
✔️ Pupils feel they have a voice when it comes to challenging racism and feel empowered to act
‘Gweld dros amser sut rydych chi [y disgyblion sy’n llysgenhadon] wedi meddwl am syniadau, cymaint o ffyrdd creadigol o hybu ymwybyddiaeth ynghylch y neges gwrth-hiliaeth a’r gred y gallwch chi wneud gwahaniaeth. Mae’r sgyrsiau hynny roeddech chi’n eu cael gyda disgyblion a staff a gweld effaith hynny a sut mae hynny wedi eich annog chi i ategu eich gwaith a chyflawni mwy wedi bod yn wych yn fy marn i, o gychwyn y prosiect hyd at heddiw ac mae’n gyffrous gweld eich camau nesaf’.
‘Seeing over time how you [the pupil ambassadors] have come up with ideas, so many creative ways of promoting awareness around the anti-racism message and the belief that you can make a difference. Those conversations you were having with pupils and staff and seeing the impact that was having and seeing how that then has encouraged you to build on your work and do even more I think has been great to see from the start of the project until now and it’s exciting to see where you take it next’.
Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cynnig hyfforddiant gwrth-hiliaeth arbenigol i staff ysgolion ym mhob cwr o Gymru, gan gefnogi addysgwyr i greu amgylcheddau dysgu hollgynhwysol a gwrth-hiliaeth.
Mae ein hyfforddiant yn addas i holl staff ysgolion – o uwch dimau arweinyddiaeth ac athrawon i staff cynorthwyol a llywodraethwyr – ac mae wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion eich ysgol neu sefydliad.
Gallwn gynnal y sesiynau fel:
Mae hyfforddiant yn ymdrin â meysydd allweddol megis:
Mae ein hwyluswyr profiadol yn creu man diogel, cefnogol ar gyfer myfyrio, trafodaethau agored a chynllunio gweithrediadau ymarferol.
Pam ddylech chi ddewis hyfforddiant Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth?
✔️ Mae’n cefnogi cydymffurfio gydag ymrwymiadau gwrth-hiliaeth Llywodraeth
✔️ Wedi’i gyflawni gan elusen addysgol gwrth-hiliaeth blaenllaw y DU
✔️ Mae wedi’i deilwra i gymuned eich ysgol
✔️ Cyfarpar ac adnoddau ymarferol
SRtRC offers expert anti-racism training for school staff across Wales, supporting educators to create inclusive, anti-racist learning environments.
Our training is suitable for all school staff — from senior leadership teams and teachers to support staff and governors — and is tailored to the specific needs of your school or setting.
Sessions can be delivered as:
Training covers key areas such as:
Our experienced facilitators create a safe, supportive space for reflection, open discussion, and practical action planning.
Why choose SRtRC training?
✔️ Supports compliance with Welsh Government anti-racism commitments
✔️ Delivered by the UK’s leading anti-racism educational charity
✔️ Tailored to your school community
✔️Practical tools and resources
“Rydw i’n teimlo’n llawer mwy hyderus o ran yn union pa gamau i’w cymryd y tro nesaf y byddaf yn dyst i ddigwyddiad hiliol yn yr ysgol.”
“I feel far more confident in exactly what steps to take next time I encounter a racist incident in school. “
Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn cydweithio’n uniongyrchol gydag arweinwyr ysgolion ledled Cymru i gynnig cymorth archwilio a chynllunio gweithredu wedi’i deilwra, gan helpu ysgolion i gymryd camau ystyrlon, strategol tuag at ddod yn wrth-hiliaeth yn weithredol.
Drwy sesiwn bwrpasol neu gyfres o sesiynau, rydym yn cefnogi uwch dimau arweinyddiaeth i gyflawni’r canlynol:
Fel rhan o’n cymorth, rydym yn cynnig:
✔️ Adnodd hunan-archwilio strwythuredig
✔️ Hwyluso ac arweiniad arbenigol
✔️ Cysylltiadau â pholisïau cenedlaethol ac ymrwymiadau gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru
✔️ Argymhellion ymarferol, wedi’u teilwra ar gyfer cwricwlwm, arweinyddiaeth, polisïau a diwylliant yr ysgolion
Drwy gydweithio gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, bydd arweinwyr ysgolion yn gadael wedi hybu eu hyder, gyda chamau nesaf pendant a chynllun ar gyfer ymgorffori gwrth-hiliaeth yn ystyrlon ac yn strategol ledled eu hysgol.
SRtRC works directly with school leaders across Wales to provide tailored auditing and action planning support, helping schools take meaningful, strategic steps towards becoming actively anti-racist.
Through a dedicated session or series of sessions, we support senior leadership teams to:
Our support includes:
✔️ Structured self-audit tool
✔️ Expert facilitation and guidance
✔️ Links to national policy and Welsh Government anti-racism commitments
✔️ Practical, tailored recommendations for curriculum, leadership, policies, and school culture
By working with SRtRC, school leaders will leave with greater confidence, clear next steps, and a roadmap for embedding anti-racism meaningfully and strategically throughout their school.
“Roedd y sesiwn gyda’r tîm arweinyddiaeth yn fodd inni fyfyrio ar yr hynny oedd yn effeithiol o ran ein taith gwrth-hiliaeth a beth ddylen ni ei flaenoriaethu o hyn ymlaen.
Ar ôl y sesiwn, roedd modd inni lunio polisïau ar gyfer ein hysgolion a oedd yn gweddu i’n dibenion gan symud ymlaen’
“The session with the leadership team allowed us to reflect on what was going well in terms of our anti racism journey and what our priorities should be moving forward.
After the session we were able to create policies for our school that suited our purposes moving forward’
Diolch am roi o’ch amser i fwrw golwg ar gynigion addysg Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Os hoffech chi holi am ddyfynbris neu drefnu gweithdy, cliciwch y ddolen isod – mae’n gyflym ac yn rhwydd!
Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda chi i helpu creu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol a gwrth-hiliaeth.
Thank you for taking the time to explore SRtRC education offers. If you’d like to request a quote or book a workshop, click link below — it’s quick and easy!
We look forward to working with you to help create a more inclusive and anti-racist learning environment.
Archwiliwch ein Canolfan Addysg am adnoddau am ddim wedi’u cynllunio i helpu eich ysgol i godi ymwybyddiaeth a sefyll yn erbyn hiliaeth

Explore our Education Hub for free resources designed to help your school raise awareness and take a stand against racism
