×

Your basket

Donate

Show Racism the Red Card’s Wales Public/Third Sector Offer:

Cynnig Sector Cyhoeddus / Trydydd Sector Cymru Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Show Racism the Red Card’s Public/Third Sector Offer

Yma yn Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, rydym yn cydnabod y rhan annatod mae mudiadau sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn eu chwarae wrth lywio cymunedau tecach, mwy cynhwysol. Mae ein Cynnig Sector Cyhoeddus a Trydydd Sector yn cefnogi timau ac arweinwyr i roi ymrwymiad ar waith drwy Hyfforddiant Gwrth-hiliaeth i Staff, Hyfforddiant Arweinyddiaeth Gwrth-hiliol, ein Rhaglen Hyrwyddwyr Gwrth-hiliaeth yn y Gweithle, a Chymorth Archwilio a Chynllunio Gweithredu. Nod pob agwedd yw helpu mudiadau i fynd ati i herio anghydraddoldeb, rhoi arfer gwrth-hiliol ar waith, a chreu gweithleoedd sy’n adlewyrchu ac yn gwasanaethu cymunedau amrywiol gyda thegwch, parch ac uniondeb. Bydd y dudalen gwe hon yn cynnig arweiniad ichi ynghylch sut gallwn helpu eich mudiad fod yn hyderus gwrth-hiliol, o gynnal sgyrsiau i fynd ati i drawsnewid.

HYFFORDDIANT GWRTH-HILIAETH I STAFF

HYFFORDDIANT ARWEINYDDIAETH GWRTH-HILIOL 

RHAGLEN HYRWYDDWYR GWRTH-HILIAETH YN Y GWEITHLE 

CYMORTH ARCHWILIO A CHYNLLUNIO GWEITHREDU

At Show Racism the Red Card, we recognise the vital role public and third sector organisations play in shaping fairer, more inclusive communities. Our Public and Third Sector Offer supports teams and leaders to turn commitment into action through Anti-racism Training for Staff, Anti-racist Leadership Training, our Anti-racism Workplace Champions Programme, and Auditing and Action-planning Support. Each element is designed to help organisations challenge inequality, embed anti-racist practice, and create workplaces that reflect and serve diverse communities with fairness, respect, and integrity. This webpage will guide you through how we can help your organisation become confidently anti-racist, from conversation to transformation.

Anti-racism Training for Staff

Anti-racist Leadership Training 

Anti-racism Workplace Champions Programme  

AUDITING AND ACTION PLANNING SUPPORT

HYFFORDDIANT GWRTH-HILIAETH I STAFF

ANTI-RACISM TRAINING FOR STAFF

Nid gofyniad cyfreithiol yn unig yw darparu gwasanaethau cyhoeddus cynhwysol – mae’n hanfodol er mwyn meithrin ymddiriedaeth a gwella deilliannau i gymunedau. Yn wir, mae hyfforddiant gwrth-hiliaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn grymuso staff i ddeall, herio, a threchu hiliaeth yn y gweithle ac wrth ddarparu gwasanaethau, gan feithrin diwylliant lle mae tegwch a pharch yn cael eu rhoi ar waith.

Pam mae o bwys i’ch mudiad:

  • Cyflawni Gwasanaeth Gwell – Mae timau cynhwysol yn cynnig gwasanaethau tecach, mwy effeithiol sy’n diwallu anghenion cymunedau amrywiol.
  • Gwell Amrywiaeth yn y Gweithlu a Chadw’r Gweithlu – Mae amgylchedd cefnogol yn denu ac yn cadw talent, gan leihau costau recriwtio a hybu lles staff.
  • Cydymffurfiaeth ac Atebolrwydd Cyhoeddus – Mae hyn yn dangos cydsyniad gyda’r ddeddfwriaeth cydraddoldeb, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, a dyletswyddau’r sector cyhoeddus.
  • Hyder ac Enw Da Cymunedau – mae’n meithrin ymddiriedaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid, gan gryfhau hygrededd eich mudiad.

Beth fyddwn ni’n ei gynnig yn yr hyfforddiant:

  • Gweithdai Rhyngweithiol – Sesiynau wedi’u teilwra sy’n bwrw golwg ar sut gall hiliaeth ymddangos yn niwylliant a pholisïau’r gweithle ac wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Adnoddau a Strategaethau ymarferol – Arweiniad eglur ar roi gwrth-hiliaeth ar waith o ddydd i ddydd ac wrth wneud penderfyniadau.
  • Dysgu’n Seiliedig ar Sefyllfaoedd – Enghreifftiau bywyd go iawn sy’n berthnasol i gyd-destunau’r sector cyhoeddus i feithrin hyder wrth fynd i’r afael â rhagfarn yn effeithiol

Delivering inclusive public services isn’t just a legal requirement—it’s essential for building trust and improving outcomes for communities. Show Racism the Red Card’s anti-racism training empowers staff to understand, challenge, and dismantle racism in the workplace and in service delivery, fostering a culture where equity and respect are embedded.

Why it matters for your organisation:

  •  Improved Service Delivery – Inclusive teams provide fairer, more effective services that meet the needs of diverse communities.
  • Enhanced Workforce Diversity and Retention – A supportive environment attracts and retains talent, reducing recruitment costs and improving staff wellbeing.
  • Compliance and Public Accountability – Demonstrates alignment with equality legislation, Welsh Government’s Anti-Racist Wales Action Plan, and public sector duties.
  • Community Confidence and Reputation – Builds trust with service users and stakeholders, strengthening your organisation’s credibility.

What the training includes:

  •  Interactive Workshops – Tailored sessions exploring how racism can manifest in workplace culture, policies, and service delivery.
  •  Practical Tools and Strategies – Clear guidance on embedding anti-racism into everyday practice and decision-making.
  • Scenario-Based Learning – Real-world examples relevant to public sector contexts to build confidence in addressing bias effectively.

Drwy bartneru â SRtRC, bydd eich staff yn ennill y wybodaeth, yr hyder a’r offer i ddarparu gwasanaethau cynhwysol a chreu gweithle lle mae gwrth-hiliaeth wedi’i gwreiddio ar bob lefel.

By partnering with SRtRC, your staff will gain knowledge, confidence, and tools to deliver inclusive services and create a workplace where anti-racism is embedded at every level.

HYFFORDDIANT ARWEINYDDIAETH GWRTH-HILIOL

ANTI-RACIST LEADERSHIP TRAINING

Yn sicr, mae arweinyddiaeth gynhwysol yn hanfodol er mwyn bodloni dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac ysgogi newid diwylliannol. Rydym yn cynnig ein Hyfforddiant Arweinyddiaeth Gwrth-hiliol i uwch arweinwyr gan gynnig arweiniad ymarferol wedi’i deilwra sy’n sicrhau bod gwrth-hiliaeth ar waith yn strategol ledled eich mudiad.

Pam mae o bwys i’ch mudiad:

  • Gosod y Naws ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus – Mae arweinwyr sy’n cyflwyno gwerthoedd gwrth-hiliol yn creu diwylliant o degwch ac atebolrwydd
  • Ysgogi Newid Strategol – Mae ymrwymiad arweinwyr yn sicrhau bod gwrth-hiliaeth ar waith mewn polisïau, prosesau llywodraethu ac wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Cefnogi Cydymffurfiaeth a Chydsyniad gyda Pholisïau – Mae’n dangos cydsyniad rhagweithiol gydag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
  • Gwella Perfformiad Sefydliadol – Mae arweinyddiaeth gynhwysol yn meithrin cydweithio, arloesedd, a deilliannau gwell i gymunedau.

Beth rydym yn ei gynnig yn yr hyfforddiant:

  • Sesiynau neu Gyfres Pwrpasol – Gweithdai wedi’u teilwra ar gyfer uwch dimau arweinyddiaeth, sy’n ymdrin â sut gall hiliaeth fodoli mewn polisïau, ymarferion, a diwylliant sefydliadol.
  • Myfyrio Gonest a Dadansoddi Diffygion – Cyfleoedd strwythuredig i asesu cryfderau cyfredol, heriau a meysydd ar gyfer gwella.
  • Gweithredu Cyd-destun Penodol – Arweiniad ymarferol ar sut mae gwrth-hiliaeth yn ymddangos yng nghyd-destun unigryw eich mudiad.
  • Deilliannau sy’n Canolbwyntio ar Weithredu – Bydd arweinwyr yn gadael yn teimlo’n hyderus, gyda chamau nesaf pendant, a chynllun ar gyfer rhoi gwrth-hiliaeth ar waith yn ystyrlon ac yn strategol.

Inclusive leadership is critical for meeting public sector equality duties and driving cultural change. Our Anti-Racist Leadership Training works with senior leaders to provide tailored, practical guidance that ensures anti-racism is embedded strategically across your organisation.

Why it matters for your organisation:

✔ Sets the Tone for Public Service – Leaders who model anti-racist values create a culture of fairness and accountability.
✔ Drives Strategic Change – Leadership commitment ensures anti-racism is integrated into policies, governance, and service delivery.
✔ Supports Compliance and Policy Alignment – Demonstrates proactive alignment with Welsh Government commitments and public sector equality duties.
Improves Organisational Performance – Inclusive leadership fosters collaboration, innovation, and better outcomes for communities.

What the training includes:

✔ Dedicated Sessions or Series – Tailored workshops for senior leadership teams, exploring how racism can exist in policies, practices, and organisational culture.
✔ Honest Reflection and Gap Analysis – Structured opportunities to assess current strengths, challenges, and areas for improvement.
✔ Context-Specific Application – Practical guidance on what anti-racism looks like in your organisation’s unique context.
✔ Action-Oriented Outcomes – Leaders leave with confidence, clear next steps, and a roadmap for embedding anti-racism meaningfully and strategically.

Drwy gydweithio gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, bydd eich tîm arweinyddiaeth yn manteisio ar y sgiliau a’r wybodaeth i arwain trwy esiampl, gan sicrhau bod gwrth-hiliaeth yn rhan graidd o hunaniaeth eich mudiad a sut rydych yn darparu gwasanaethau.

By partnering with SRtRC, your leadership team will gain the tools and insight to lead by example, ensuring anti-racism becomes a core part of your organisation’s identity and service delivery.

RHAGLEN HYRWYDDWYR GWRTH-HILIAETH YN Y GWEITHLE

ANTI-RACISM WORKPLACE CHAMPIONS PROGRAMMA

Er mwyn creu newid parhaol, mae angen eiriolwyr sy’n arwain yn fewnol. Mae ein Rhaglen Hyrwyddwyr Gwrth-hiliaeth yn y Gweithle yn rhannu’r wybodaeth a’r adnoddau ymarferol a hybu hyder y rheiny sy’n cymryd rhan i fod yn hyrwyddwyr gwrth-hiliaeth ledled eich mudiad ac mewn rolau sy’n ymwneud â’r gymuned.

Pam mae’r rhaglen hon o bwys:

  • Grymuso Staff i Ysgogi Newid – Mae hyrwyddwyr yn gweithredu fel modelau rôl amlwg, gan hyrwyddo cynhwysiant a herio gwahaniaethu ar bob lefel.
  • Cryfhau Diwylliant Sefydliadol – Mae rhwydwaith o eiriolwyr gwybodus yn helpu i roi gwerthoedd gwrth-hiliaeth ar waith mewn ymarferion dydd i ddydd ac wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Hybu Ymgysylltu a Chadw Staff – Mae staff yn teimlo wedi’u gwerthfawrogi pan mae eu mudiad yn buddsoddi mewn tegwch a chynhwysiant, gan wella morâl a lleihau trosiant staff.
  • Gwella Deilliannau Cymunedol – Mae gweithleoedd cynhwysol yn meithrin ymddiriedaeth ac yn ymgysylltu’n well gyda chymunedau amrywiol.

Beth mae’r rhaglen yn ei chynnig:

  • Cyfres o Sesiynau Rhyngweithiol – Gweithdai ymarferol sy’n ymdrin ag egwyddorion gwrth-hiliaeth, gweithredu yn y gweithle a sgiliau arweinyddiaeth.
  • Sgiliau ar gyfer Eirioli a Dylanwadu – Hyfforddiant ar sut i herio rhagfarn yn adeiladol, cefnogi cydweithwyr, a dylanwadu ar bolisïau sefydliadol.
  • Dysgu rhwng Cyfoedion a Rhwydweithio – Cyfleoedd i rannu profiadau a strategaethau gyda hyrwyddwyr eraill, gan greu rhwydwaith cymorth mewnol cryf.
  • Cynllunio Gweithredu ac Adnoddau – Arweiniad ar ddatblygu mentrau ac ymgyrchoedd sy’n cyd-fynd gyda nodau a gwerthoedd eich mudiad.

Lasting change requires advocates who lead from within. Our Workplace Champions Programme equips participants with the knowledge, confidence, and practical tools to become anti-racism champions across your organisation and in community-facing roles.

Why this programme matters:

✔ Empowers Staff to Drive Change – Champions act as visible role models, promoting inclusion and challenging discrimination at every level.
✔ Strengthens Organisational Culture – A network of informed advocates helps embed anti-racist values into everyday practice and service delivery.
✔ Boosts Engagement and Retention – Staff feel valued when their organisation invests in equity and inclusion, improving morale and reducing turnover.
✔ Improves Community Outcomes – Inclusive workplaces foster trust and better engagement with diverse communities.

What the programme includes:

✔ A Series of Interactive Sessions – Practical workshops covering anti-racism principles, workplace application, and leadership skills.
✔ Skills for Advocacy and Influence – Training on how to challenge bias constructively, support colleagues, and influence organisational policies.
✔ Peer Learning and Networking – Opportunities to share experiences and strategies with other champions, building a strong internal support network.
✔ Action Planning and Resources – Guidance on developing initiatives and campaigns that align with your organisation’s goals and values.

Drwy gydweithio gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, byddwch yn meithrin tîm o hyrwyddwyr hyderus, gwybodus sy’n helpu i gynnal ymarferion gwrth-hiliaeth ac ysgogi newid diwylliannol ystyrlon ledled eich mudiad.

By partnering with SRtRC, you’ll create a team of confident, informed champions who help sustain anti-racist practices and drive meaningful cultural change across your organisation.

CYMORTH ARCHWILIO A CHYNLLUNIO GWEITHREDU

AUDITING AND ACTION PLANNING SUPPORT

Mae dyletswydd ar fudiadau’r sector cyhoeddus i arwain ar gydraddoldeb a chynhwysiant. Bydd ein Cymorth Archwilio a Chynllunio Gweithredu yn eich helpu i roi eich ymrwymiadau ar waith gydag eglurder a hyder.

Pam mae o bwys i’ch mudiad:

  • Cydnabod Cryfderau a Diffygion – Bydd archwiliad trylwyr yn datgelu lle mae cynnydd yn gryf a lle mae angen gwelliannau.
  • Sicrhau Cydsyniad Strategol – Mae’n cysylltu eich cynllun gyda Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru a dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
  • Meithrin Newid Cynaliadwy – Mae’n cynnig cynllun eglur gyda nodau mesuradwy ac amserlenni ar gyfer effaith hirdymor.
  • Gwella Atebolrwydd a Thryloywder – Mae’n dangos ymrwymiad i gymunedau, rhanddeiliaid a rheoleiddwyr.

Beth rydym ni’n ei ddarparu:

  • Adnodd Hunan-archwilio Hollgynhwysol – Fframwaith strwythuredig i asesu’r polisïau, yr ymarferion a’r diwylliant cyfredol.
  • Hwyluso ac Arweiniad Arbenigol – Bydd hwyluswyr medrus yn arwain eich tîm drwy fyfyrio gonest a chynllunio ar y cyd.
  • Argymhellion wedi’u Teilwra – Cyngor ymarferol ar gyfer rhoi gwrth-hiliaeth ar waith mewn prosesau arwain, llywodraethu, recriwtio a darparu gwasanaethau.
  • Blaenoriaethu a chynllunio – Cymorth i osod nodau realistig, amserlenni a deilliannau mesuradwy.
  • Opsiynau Cymorth Parhaus – Arweiniad ar fonitro cynnydd, gwerthuso effaith, ac addasu strategaethau wrth i’ch mudiad esblygu.

Public sector organisations have a duty to lead on equality and inclusion. Our Auditing and Action Planning Support helps you move from commitment to action with clarity and confidence.

Why it matters for your organisation:

✔ Identifies Strengths and Gaps – A thorough audit reveals where progress is strong and where improvement is needed.
✔ Ensures Strategic Alignment – Connects your plan to Welsh Government’s Anti-Racist Wales Action Plan and public sector equality duties.
✔ Builds Sustainable Change – Provides a clear roadmap with measurable goals and timelines for long-term impact.
✔ Improves Accountability and Transparency – Demonstrates commitment to communities, stakeholders, and regulators.

What we provide:

✔ Comprehensive Self-Audit Tool – A structured framework to assess current policies, practices, and culture.
✔ Expert Facilitation and Guidance – Skilled facilitators lead your team through honest reflection and collaborative planning.
✔ Tailored Recommendations – Practical advice for embedding anti-racism across leadership, governance, recruitment, and service delivery.
✔ Prioritisation and Roadmapping – Support to set realistic goals, timelines, and measurable outcomes.
✔ Ongoing Support Options – Guidance on monitoring progress, evaluating impact, and adapting strategies as your organisation evolves.

Drwy gydweithio gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, byddwch yn gadael gyda chynllun strategol, gellir ei weithredu, sy’n newid uchelgeisiau i fod yn gynnydd mesuradwy – gan greu mudiad lle mae gwrth-hiliaeth ar waith ar bob lefel.

By partnering with SRtRC, you’ll leave with a strategic, actionable plan that turns ambition into measurable progress—building an organisation where anti-racism is embedded at every level.

Trefnu gweithdy

Book a workshop

Diolch am roi o’ch amser i fwrw golwg ar gynigion Sector Cyhoeddus / Trydydd Sector Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Os hoffech chi ddysgu mwy am unrhyw un o’n cyfleoedd hyfforddiant neu drafod sut gallwn eu teilwra i ddiwallu anghenion eich mudiad chi, cliciwch y ddolen isod neu cysylltwch gyda ni ar wales@theredcard.org.

Trefnu gweithdy

 

Thank you for taking the time to look over Show Racism the Red Card Wales’ Public/Third Sector offers. If you’d like to learn more about any of our training opportunities or discuss how we can tailor them to your organisation’s needs, please click the link below or get in touch with us at wales@theredcard.org.

Book a Workshop

 

Join the SRTRC mailing list
Sign up
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.