Young Ambassadors Ready to Lead Anti-Racism Change Across Wales
|
Llysgenhadon Ifanc yn Barod i Arwain Newid Gwrth-hiliaeth ledled Cymru Ar ddydd Mawrth Medi’r 23ain a dydd Gwener Medi’r 26ain 2025, roedd yn fraint gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth lansio ‘Arweinwyr Heddiw’ 2025-26 gyda dau ddigwyddiad allweddol yn Wrecsam a Chasnewydd. Yn Wrecsam, daeth 28 disgybl ac athrawon o bedair ysgol yn Wrecsam a Sir Ddinbych ynghyd yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, fe wnaeth 37 disgybl ac athrawon o bum ysgol yng Nghasnewydd ymgynnull yn Rodney Parade, cartref y Dreigiau, i lansio eu digwyddiad eu hunain. Hyn i gyd gyda diolch i dîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (gyda chefnogaeth gan Ysgolion Iach Wrecsam) am eu cymorth yn ogystal â Gwasanaeth Addysg Amlieithog Gwent Cyngor Dinas Casnewydd. Roedd y deuddydd yn fodd i ddisgyblion achub ar y cyfle i ddod y garfan ddiweddaraf o lysgenhadon gwrth-hiliaeth, yn barod i fwrw iddi i wneud gwahaniaeth yn eu hysgolion a’u cymunedau. Yn ystod digwyddiad Gogledd Cymru fe dderbyniwyd cyfraniad pwerus gan grŵp Gwahaniaethu: Mae’n Gyfrifoldeb I MiYsgol Uwchradd Prestatyn. Chwe blynedd wedi iddyn nhw sefydlu eu menter, aeth yr aelodau ati i fyfyrio ar effaith eu gwaith hyd yma a phwysigrwydd gadael gwaddol sy’n parhau i ysbrydoli. Bu i’w geiriau amlygu sut gallai llais disgyblion lywio diwylliant yr ysgol gyfan ac ysbrydoli carfannau’r dyfodol. Yn y ddau ddigwyddiad, bu i’r disgyblion ac athrawon gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r nod o wella’u dealltwriaeth o hiliaeth a gwrth-hiliaeth. Aethan nhw ati i sefydlu eu grwpiau ysgol am y tro cyntaf, bwrw golwg ar adnoddau DyCCiH i ategu eu gwaith, a chychwyn arni i lunio’u cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf – gan gynnwys ymchwilio sut mae hiliaeth yn ymddangos yn eu cymunedau ysgol eu hunain. Roedd y ddau ddiwrnod yn ferw o brysurdeb a chreadigrwydd, wrth i’r bobl ifanc gychwyn arni gyda’u rolau newydd fel llysgenhadon gwrth-hiliaeth. Mae’r daith wirioneddol bellach ar waith. Bydd y disgyblion yn dychwelyd i’w hysgolion i sefydlu ac arwain eu grwpiau gwrth-hiliaeth, cynllunio ymgyrchoedd a gweithgareddau ystyrlon, a chymryd rhan mewn mentrau megis Diwrnod Gwisgo Coch (dydd Gwener, Hydref yr 17eg). Ar y cyd â hyn, byddan nhw’n mynd rhagddi i gynnal ymchwil a chynllunio prosiectau sy’n ymgorffori gwrth-hiliaeth wrth wraidd bywyd ysgol, gan hybu eu hyder a’u sgiliau fel arweinwyr gwrth-hiliaeth yn ogystal. Bydd DyCCiH Cymru yn parhau i gefnogi’r llysgenhadon ifanc hyn gan gysylltu gyda nhw a rhannu adnoddau gyda nhw’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, a sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus ac wedi’u paratoi i arwain. Mae hefyd yn bleser gennym gynnal Arweinwyr Heddiw ar lefel cynradd, gyda grŵp ‘Racism Busters’ Ysgol Gynradd St Julian yng Nghasnewydd ac Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn Abertawe yn mynd ati’r tymor hwn hefyd. At hyn, mae mwy o ysgolion ar fin ymuno gyda nhw wrth i’r flwyddyn academaidd fynd rhagddi. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn cynnydd ein carfan ‘Arweinwyr Heddiw’ 2025-26 a chlodfori eu llwyddiannau. Cadwch olwg ar y wefan a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @theredcardwales i fwrw golwg ar gynnydd y genhedlaeth hon o arweinwyr! |
Young Ambassadors Ready to Lead Anti-Racism Change Across Wales On Tuesday 23rd September and Friday 26th September 2025, Show Racism the Red Card Wales proudly launched ‘Leaders of Now’ 2025-26 with two key events in Wrexham and Newport. In Wrexham, 28 pupils and teachers from four schools in Wrexham and Denbighshire came together at Xplore! Science Discovery Centre. Just days later, 37 pupils and teachers from five schools in Newport gathered at Rodney Parade, home of the Dragons, for their own launch event. Thanks to support from the North East Wales Community Cohesion team (with support from Wrexham Healthy Schools) and Newport City Council’s Gwent Educational Multilingual Service, both days offered pupils the chance to become the latest cohort of anti-racism ambassadors, ready to make a difference in their schools and communities. The North Wales event was marked by a powerful contribution from Prestatyn High School’s Discrimination: It Stops with Me group. Six years after setting up their initiative, members reflected on the impact of their work so far and the importance of leaving a legacy that continues to inspire. Their words highlighted how pupil voice can shape whole-school culture and inspire future cohorts. At both events, pupils and teachers engaged in activities designed to deepen their understanding of racism and anti-racism. They set up their school groups for the first time, explored SRtRC’s resources to support their work, and began shaping plans for the year ahead — including researching what racism looks like in their own school communities. Both days buzzed with energy and creativity, as the young people embraced their new roles as anti-racism ambassadors. Now the real journey begins. Pupils will return to their schools to set up and lead their anti-racism groups, plan meaningful campaigns and activities, and take part in initiatives such as Wear Red Day (Friday 17th October). Alongside this, they will carry out research and plan projects that embed anti-racism at the heart of school life, while building their confidence and skills as anti-racism leaders. SRtRC Wales will continue to support these young ambassadors with regular check-ins and resources throughout the year, ensuring they feel confident and equipped to lead. We are also proud to be running Leaders of Now at primary level, with both Newport’s St Julian’s Primary School’s ‘Racism Busters’ and Swansea’s St David’s R.C. Primary School getting to work this term too, with more schools set to join them as the academic year progresses. We look forward to following the progress of our 2025-26 ‘Leaders of Now’ cohort and celebrating their achievements. Keep an eye on the website and follow us on social media @theredcardwales to see how this new generation of leaders are getting on! |