×

Your basket

Donate

News Story

Y Genhedlaeth Nesaf o Arweinwyr Heddiw yn Bwrw Iddi Gyda’u Gwaith Ledled Gogledd Cymru

Bellach mae cenhedlaeth newydd o lysgenhadon gwrth-hiliaeth wedi cychwyn ar eu taith Arweinwyr Heddiw, gyda disgyblion o bob cwr o Ogledd Cymru yn dod ynghyd i ddechrau cynllunio sut y gallan nhw fynd ati i herio hiliaeth yn eu hysgolion.

Ar ddydd Mawrth, Medi’r 22ain, ymunodd 26 o lysgenhadon disgyblion newydd o 5 ysgol â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn Xplore! ar gyfer lansiad rhaglen Arweinwyr Heddiw 2026-27. Mae’r llysgenhadon newydd yn cynrychioli Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff ac Ysgol Uwchradd Darland yn Wrecsam; Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Glan Clwyd yn Sir Ddinbych; ac Ysgol Dyffryn Conwy. Ariannwyd y rhaglen gyda chyllid gan Ysgolion Iach, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Chydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru.

At hyn, bu i’r lansiad ddwyn ynghyd 10 aelod o staff arwain newydd, yn ogystal â phartneriaid o gynghorau Sir Ddinbych, Wrecsam a Chonwy. Bydd y staff arwain yn cefnogi eu disgyblion sy’n llysgenhadon drwy gydol y rhaglen wrth iddyn nhw ddatblygu eu syniadau a mynd rhagddi gyda’u gwaith gwrth-hiliaeth yn eu hysgolion.

Ar y cyd â’r llysgenhadon newydd, ymunodd 7 o Arweinwyr Heddiw o Ysgol Uwchradd Gatholig Crist y Gair ac Ysgol Uwchradd Elfed â’r diwrnod i rannu eu profiadau a chynnig anogaeth i’r garfan newydd.

Gan glywed o lygaid y ffynnon gan ddisgyblion sydd eisoes wedi bod yn rhan o Arweinwyr Heddiw, roedd yn gyfle i’r llysgenhadon newydd weld sut mae gwaith gwrth-hiliaeth dan arweiniad disgyblion yn ymddangos yn ymarferol. Rhannodd y llysgenhadon presennol eu profiadau o arwain gwaith gwrth-hiliaeth yn eu hysgolion nhw, gan rannu syniadau â’r garfan newydd i’w rhoi ar waith wrth iddyn nhw fynd ati i ddatblygu eu prosiectau eu hunain.

Bu i ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Gatholig Crist y Gair (Y Rhyl) ysbrydoli’r llysgenhadon newydd yn arbennig gyda’u heglurhad o’u menter “Buddy Bank”. Ysgogodd y syniad y garfan newydd i ystyried sut y gallan nhw helpu disgyblion yn eu hysgolion eu hunain deimlo fel eu bod nhw’n perthyn, a sut y gall creu’r ymdeimlad hwnnw o berthyn ffurfio rhan o’u gwaith gwrth-hiliaeth ehangach.

Cafodd y staff arwain hefyd gyfle i glywed gan Abi Boniface, aelod o staff arweiniol yn Ysgol Uwchradd Elfed yn Sir y Fflint, a fu’n myfyrio ar ei phrofiad hi o gefnogi grŵp Lleisiau Er Mwyn Newid Ysgol Elfed dros y blynyddoedd diwethaf. Siaradodd Abi yn agored am yr heriau mae hi wedi’u hwynebu, yr agweddau sydd wedi’i synnu yn ystod y gwaith a’r hyn y byddai’n hoff o fod wedi gwybod ymlaen llaw pan aeth ati i arwain y grŵp. Bu i’w myfyrdodau gynnig cipolwg gwerthfawr i’r staff arwain newydd o’r gwaith sydd ynghlwm ag arwain grŵp Arweinwyr Heddiw, ynghyd â syniadau ymarferol i’w defnyddio yn eu hysgolion eu hunain.

Drwy gydol y lansiad, bu i’r llysgenhadon newydd gymryd rhan mewn gweithgareddau i feithrin eu dealltwriaeth o hiliaeth a gwrth-hiliaeth, ystyried eu rôl fel arweinwyr ifanc a dechrau meddwl am yr hyn y maen nhw’n awyddus i’w gyflawni drwy eu grwpiau Arweinwyr Heddiw.

Y cam nesaf yw i’r llysgenhadon rannu eu syniadau yn eu hysgolion. Dros y flwyddyn nesaf, byddan nhw’n cydweithio i ymchwilio hiliaeth a gwrth-hiliaeth, adnabod materion sydd o bwys i’w cymunedau ysgol a datblygu gweithgareddau a chamau gweithredu i herio hiliaeth a hybu gwrth-hiliaeth.

Bydd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn parhau i gefnogi’r grwpiau drwy gydol y rhaglen, gan gynnig cyfleoedd i lysgenhadon a staff arwain gysylltu, rhannu syniadau a dysgu gan ei gilydd.

Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r garfan newydd hon wrth iddyn nhw roi eu syniadau ar waith ac arwain gwaith gwrth-hiliaeth yn eu hysgolion.

Back to News
Join the SRTRC mailing list
Sign up
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.