Bydd Sioeau Teithiol yr Haf Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn ymweld â phob awdurdod lleol yng Nghymru
Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn mynd ati i gynnal eu Sioeau Teithiol yr Haf “Sut i Siarad Am…” ledled Cymru’r haf hwn, gyda digwyddiadau ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol.
Caiff y gyfres o sioeau teithiol ar hyd a lled Cymru eu cynnal o Fehefin y 30ain hyd at Fedi’r 24ain 2026. Bydd pob un o’r digwyddiadau hyn yn ystod y bore yn cefnogi pobl i hybu eu hyder, herio hiliaeth a chreu newid gwirioneddol yn eu cymunedau, gweithleoedd a’u bywydau bob dydd.
Mae cyfres Sioeau Teithiol yr Haf Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth: Sut i Siarad Am… yn arbennig ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i deimlo’n fwy hyderus yn cynnal sgyrsiau agored, gwybodus ac adeiladol am hiliaeth, gwrth-hiliaeth ac effaith gwahaniaethu.
Drwy drafodaethau panel arbenigol a gweithdai rhyngweithiol, bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn ymwneud â sut i ymdrin â sgyrsiau sensitif neu heriol gyda hyder, eglurder, empathi a pharch. Bydd y sesiynau’n darparu arweiniad ymarferol, yn annog dysgu ar y cyd ac yn cefnogi’r rheiny sy’n cymryd rhan i ddatblygu’r adnoddau sydd eu hangen i herio hiliaeth, hyrwyddo cynhwysiant a helpu creu amgylcheddau mwy diogel a mwy parchus ym mhob cwr o Gymru.
Yn wir, mae’r sioeau teithiol yn arbennig o berthnasol i bobl sy’n gweithio yn y byd addysg, i awdurdodau lleol, gwasanaethau ieuenctid, neu adrannau diogelwch cymunedol, tai, iechyd, plismona, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, mudiadau cymunedol ac mewn rolau eraill sy’n ymdrin â’r cyhoedd lle gallai sgyrsiau am hiliaeth, hunaniaeth, gwahaniaethu a chynhwysiant godi. Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn annog unigolion, mudiadau a phartneriaid cymunedol ledled Cymru i fynychu sesiwn yn eu hardal leol a helpu rhannu’r cyfle gyda’u rhwydweithiau.
Dywedodd Dean Pymble, Rheolwr Ymgyrchoedd ar ran Cymru
“Nod y Sioeau teithiol yw cynnig gofod i gynnal sgyrsiau onest ac ystyrlon a rhoi’r hyder a’r adnoddau ymarferol i bobl fynd ati i herio hiliaeth pan maen nhw’n dyst iddo. Drwy ymweld â phob awdurdod lleol yng Nghymru, hoffem gefnogi cymunedau, mudiadau ac unigolion i leisio’u barn, sefyll mewn undod ac ysgogi newid.”
Dyddiadau’r Sioeau teithiol ledled Cymru
Bydd pob digwyddiad o 9:00yb tan 1:00yp.
Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan linyn Ymwybyddiaeth a Chynhwysiant y Rhaglen Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer y sioeau teithiol ar draws Cymru.
Dewch o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi a chadwch eich lle rhad ac am ddim: