×

Your basket

Donate

News Story

Leaders of Now 2024-25: Empowering Young People to Tackle Racism in North Wales

Arweinwyr Heddiw 2024-25: Grymuso Pobl Ifanc i Drechu Hiliaeth yng Ngogledd Cymru Leaders of Now 2024-25: Empowering Young People to Tackle Racism in North Wales

 

 

Bu i brosiect Arweinwyr Heddiw 2024-25Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, a ariannwyd gan adrannau Ysgolion Iach Sir y Fflint a Wrecsam, ar y cyd â thîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru gefnogi disgyblion o 5 ysgol uwchradd ledled Wrecsam a Sir y Fflint i herio hiliaeth; creu rhwydweithiau gwrth-hiliaeth cynaliadwy; a hyrwyddo sgyrsiau ynghylch gwrth-hiliaeth yn eu hysgolion. Yn ystod y flwyddyn, aeth y disgyblion ati i gynnal ymchwil ar sut mae gwrth-hiliaeth yn ymddangos yn eu hysgol nhw a bu iddyn nhw dderbyn arweiniad i roi eu canfyddiadau ar waith yn ymarferol. Ar y cyd â hyn, bu i ddisgyblion o’r 4 ysgol uwchradd yn Sir y Fflint a oedd yn rhan o’r garfan Arweinwyr Heddiw 2023-24 dderbyn cymorth i barhau i roi gwrth-hiliaeth ar waith yn eu hysgolion nhw.

Yr Angen

Mae hiliaeth yn parhau i fod yn fater allweddol mewn ysgolion yn Sir y Fflint a Wrecsam. Yn 2023/24 cafodd 3,978 trosedd casineb yn ymwneud â hil neu grefydd eu hadrodd i’r heddlu yng Nghymru. Fodd bynnag, dywedodd nifer o’r disgyblion eu bod yn ansicr ynghylch sut i adrodd am ddigwyddiadau neu a fydd oedolion yn gweithredu yn eu cylch.

Mae disgyblion wedi tynnu sylw at heriau megis diffyg hyder i adrodd am ddigwyddiadau, profiadau o stereoteipio diwylliannol, a diffyg mannau diogel i drafod pryderon. Fel y soniodd un disgybl, fel rhan o’r ymchwil roedd gofyn iddyn nhw “siarad gyda phob un o’n hathrawon a thrafod beth maen nhw wedi’i wneud / beth allan nhw ei wneud i daflu goleuni ar gymunedau hiliol,” gan ddangos sut mae disgyblion yn ymwybodol o fylchau o ran dealltwriaeth a chymorth. Heb gymorth strwythuredig, gallai hiliaeth barhau heb gael ei herio neu gallai fod yn gyfyngedig i ymatebion adweithiol, sydd yn ei dro yn cyfyngu ar allu disgyblion i ysgogi newidiadau rhagweithiol ac ystyrlon yn eu hysgolion eu hunain.

Dull a Chyflawniadau’r Prosiect

Sefydlodd yr ysgolion grwpiau gwrth-hiliaeth a chynnal ymchwil i lywio gweithrediadau. Aeth y disgyblion ati i ddatblygu systemau cymorth cyfoedion, archwiliadau cwricwlwm, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a mentrau codi arian yn ymwneud ag ymgyrchoedd Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth megis Diwrnod Gwisgo Coch. Bu i’r grwpiau hefyd feithrin sgyrsiau hirdymor a mynd i’r afael â rhwystrau rhag / hyder yn adrodd am ddigwyddiadau hiliol yn eu sefydliadau. Ymhlith yr enghreifftiau roedd cyflwyno sesiynau galw heibio a llinynnau gwddf cymorthyddion cyfoedion, cynnal gwasanaethau ysgol, eirioli dros ystafelloedd gweddïo hollgynhwysol ac arallgyfeirio adnoddau dysgu fel eu bod yn cynrychioli’r holl ddiwylliannau.

Effaith

Roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben: roedd 100% o’r farn bod y prosiect wedi cael effaith gadarnhaol, yn ei argymell i ysgolion eraill ac yn teimlo wedi’u cefnogi gan arweinwyr staff; roedd 92% o’r farn bod uwch arweinwyr yn gwrando ar eu pryderon a’u syniadau ac wedi gweithredu’n unol â hynny.

Bwrw Golwg Tua’r Dyfodol

Mae’r holl ysgolion yn bwriadu parhau gyda’r gwaith gwrth-hiliaeth y flwyddyn nesaf, gan gynnwys cydweithio gydag ysgolion cynradd sy’n bwydo a gweithgareddau ymwybyddiaeth parhaus. Mae’r prosiect Arweinwyr Heddiw yn dangos sut gallai grymuso pobl ifanc gyda gwybodaeth ac arweiniad greu newid parhaol wrth drechu hiliaeth.

 

Darllenwch adroddiad Arweinwyr Heddiw 2024-’25 yma:

Arweinwyr Heddiw 2024-’25 yma

 

Show Racism the Red Card’s Leaders of Now 2024-25 project, funded by Flintshire and Wrexham Healthy Schools departments, alongside the North East Wales Community Cohesion team, supported pupils from 5 secondary schools across Wrexham and Flintshire  to challenge racism; create sustainable anti-racism networks; and promote conversations around anti-racism in their schools. Over the year, pupils conducted research into what anti-racism looked like in their schools and received guidance to turn findings into practical actions. Alongside this, pupils from the 4 Flintshire secondary schools who made up the 2023-24 Leaders of Now cohort were supported to continue embedding anti-racism in their schools.

The Need
Racism remains a pressing issue in Flintshire and Wrexham schools. In 2023/24, 3,978 police-recorded hate crimes related to race or religion were reported in Wales, but many pupils say they are unsure how to report incidents or whether adults will take action. Pupils have highlighted challenges such as low confidence in speaking up, experiences of cultural stereotyping, and a lack of safe spaces to discuss concerns. As one pupil noted, research involved “going around to all our teachers and discussing what they have/can do to shed light on racial communities,” showing how pupils are aware of gaps in understanding and support. Without structured support, racism can go unchallenged or can be limited to reactive responses, limiting pupils’ ability to drive proactive, meaningful change in their own schools.

Project Approach & Achievements
Schools established anti-racism groups and carried out research to inform actions. Pupils developed peer-support systems, curriculum audits, awareness campaigns and fundraising initiatives around SRtRC campaigns such as Wear Red Day. Groups also fostered long-term conversations and addressed barriers to/confidence in reporting racist incidents in their settings. Examples include introducing drop-in sessions and peer supporter lanyards, holding school assemblies, advocating for inclusive prayer rooms and diversifying teaching resources so that they were culturally representative.

Impact
Feedback was overwhelmingly positive: 100% felt the project had a positive impact, would recommend it to other schools, and felt supported by staff leads; 92% felt senior leaders listened to their concerns and ideas and took action accordingly.

Looking Ahead
All schools plan to continue anti-racism work next year, including collaboration with feeder primary schools and ongoing awareness activities. The Leaders of Now project demonstrates how empowering young people with knowledge and guidance can create lasting change in tackling racism.

 

Read the Leaders of Now 2024-’25 report here:

Leaders of Now Report Summary 24-25

Back to News
Join the SRTRC mailing list
Sign up
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.