×

Your basket

Donate

News Story

Arweinwyr Heddiw: Effaith Gynyddol Ledled Cymru

English

Roedd yn bleser gennym ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall o raglen Arweinwyr Heddiw Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru wrth i garfannau o lysgenhadon ysgolion uwchradd o Ogledd Ddwyrain Cymru a Chasnewydd ddod ynghyd i rannu eu gwaith a myfyrio ar flwyddyn o weithredu gwrth-hiliaeth ystyrlon. 

Ar Ebrill y 29ain, daeth oddeutu 70 o westeion at ei gilydd i Westy’r Grosvenor Pulford i ddathlu llwyddiannau ein Harweinwyr Heddiw o Wrecsam a Sir Ddinbych. Cyflwynodd disgyblion o bedair ysgol y gwaith gwrth-hiliaeth maen nhw wedi ei ddatblygu a’i arwain yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, gyda chymorth gan Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a’u harweinwyr staff ysgol.

Dyma’r ysgolion a oedd ynghlwm:

  • Ysgol Gatholig Crist y Gair, Y Rhyl
  • Ysgol Clywedog, Wrecsam
  • Ysgol Maelor, Llannerch Banna
  • Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

    

Bu i bob ysgol gyflwyno cyflwyniad byr yn amlygu eu taith, heriau, ac effaith.

Y diwrnod canlynol, ar Ebrill y 30ain, roeddem yn falch o gynnal ein digwyddiad dathlu Arweinwyr Heddiw cyntaf un yng Nghasnewydd, gan nodi ehangiad cyffrous o’r rhaglen i Dde Cymru. Bu i’r garfan gyntaf hon ddwyn ynghyd llysgenhadon o chwe ysgol, gyda phob un yn rhannu eu gwaith ysbrydoledig gyda’r gwesteion.

Cyflwynodd llysgenhadon ifanc o’r ysgolion canlynol:

  • Ysgol Gyfun Gwent Is Coed 
  • Ysgol Uwchradd Llanwern  
  • Ysgol Uwchradd Llyswyry
  • Ysgol Uwchradd Casnewydd
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff
  • Ysgol Uwchradd Sant Julian 

Yn ystod y ddau ddigwyddiad, bu i ddisgyblion siarad yn angerddol am y gwaith roedden nhw wedi’i gyflawni a’r gwahaniaeth roedd wedi’i wneud yn eu hysgolion.

Roedd hefyd yn wych gweld y sgyrsiau meddylgar a diddorol ymhlith y gwesteion yn y ddau ddigwyddiad, gyda llawer yn myfyrio ar sut y gallai gwaith y disgyblion ysbrydoli camau gweithredu pellach yn eu sefydliadau eu hunain.

Bu i adborth gan y rheiny oedd yn bresennol amlygu grym ac effaith y rhaglen:

“Mae’r gwaith hwn yn hollbwysig. Mae’n addysgu ac yn grymuso disgyblion i herio hiliaeth a rhagfarn. Pan fo disgyblion yn mynd ati i gyflwyno negeseuon a gwybodaeth bwysig mewn ffordd mor angerddol ac eglur, mae modd i bobl ifanc eraill uniaethu â nhw.” 

Bu i un gwestai a fynychodd fyfyrio ar arwyddocâd ehangach y digwyddiad a’r bobl ifanc a oedd ynghlwm:

“Roeddwn wrth fy modd yn cael mynd i ddathliad Arweinwyr Heddiw. Am bobl ifanc ysbrydoledig sy’n cyflawni gwaith gwerth chweil… Yn fy marn i, roedd eu hymagwedd yn ddewr dros ben, yn onest ac yn bwerus. Roeddwn yn teimlo’n eithaf emosiynol… Mae’r bobl ifanc sydd wrthi’n cyflawni’r gwaith ar hyn o bryd yn gosod y sylfeini ar gyfer newid cadarnhaol hirdymor ac mae’n cynnig gobaith imi ar gyfer y dyfodol. Da iawn!”

Wrth i’r rhaglen barhau i ddatblygu, mae’n arbennig o gyffrous ei weld yn ymestyn i gyrraedd ardaloedd newydd, gan feithrin rhwydwaith ehangach o arweinwyr ifanc sydd wedi’i ymrwymo i wrth-hiliaeth.

Hoffai Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru estyn diolch enfawr i’r holl lysgenhadon ac arweinwyr staff ysgol am eu hymrwymiad a’u gwaith caled eleni, yn ogystal ag ein harianwyr ac ein gwesteion am eu cymorth parhaus.

 

 

Back to News
Join the SRTRC mailing list
Sign up
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.