×

Your basket

Donate

News Story

Arweinwyr Heddiw 2025–26: Datblygu Arweinwyr Gwrth-hiliaeth Ifanc Ledled Cymru

Arweinwyr Heddiw 2025–26: Datblygu Arweinwyr Gwrth-hiliaeth Ifanc Ledled Cymru

Cefnogodd prosiect ysgolion uwchradd Arweinwyr Heddiw 2025–26 bobl ifanc mewn 10 ysgol ledled Gogledd Cymru a 6 ysgol yng Nghasnewydd i ddysgu am ac ymwneud â hiliaeth yng nghymunedau eu hysgolion a mynd ati i weithredu’n ymarferol i greu newid cadarnhaol. Ariannwyd y rhaglen drwy bartneriaid Ysgolion Iach a Chydlyniant Cymunedol yng Ngogledd Cymru a GEMS yng Nghasnewydd ac mae’n cynnig yr wybodaeth, yr hyder a’r cymorth i ddisgyblion weithredu fel llysgenhadon gwrth-hiliaeth yn eu hysgolion.

Drwy gydol y flwyddyn, aeth grwpiau disgyblion ati i fwrw golwg ar sut roedd hiliaeth yn ymddangos yn eu safleoedd nhw, nodi’r meysydd ar gyfer newid a datblygu camau gweithredu i fynd i’r afael â nhw. Mae’r rhaglen hwn yn sicrhau bod y bobl ifanc yn ganolog i’r gwaith hwn, gyda staff arweiniol yn cynnig cymorth wrth i ddisgyblion ddatblygu a rhoi eu syniadau eu hunain ar waith.

Hybu hyder a chynaliadwyedd

Dangosodd yr adborth a dderbyniwyd gan yr ysgolion fu’n cymryd rhan eleni, bod hyder y disgyblion wedi’i hybu i gynnal sgyrsiau parchus am hiliaeth, ynghyd â chymorth cadarn gan staff arweiniol tuag at syniadau eu disgyblion.  At hyn, bu i’r rhaglen helpu grwpiau i hybu’r hyder a’r sgiliau i ysgwyddo mwy o berchnogaeth am eu gwaith gwrth-hiliaeth. Heb os, mae hyn yn adlewyrchu un o amcanion craidd Arweinwyr Heddiw: nid yn unig i gyflwyno rhaglen i bobl ifanc ond i helpu ysgolion ddatblygu grwpiau a dulliau o dan arweiniad disgyblion a all barhau y tu hwnt i flwyddyn gweithredu’r prosiect.

Arwain newid yn eu hysgolion

Mae grwpiau eleni wedi ymgymryd ag ystod eang o ddulliau er mwyn rhoi eu dysgu ar waith. Ymhlith y gweithgareddau roedd codi ymwybyddiaeth o hiliaeth a gwahaniaethu, cyfrannu tuag at ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth, adolygu prosesau ac adnoddau ysgolion, a datblygu dulliau ymarferol i wella adrodd am ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol.

Datblygu rhwydwaith

Un o gryfderau allweddol Arweinwyr Heddiw yw’r cyfle i ysgolion ddysgu gan ei gilydd. Aeth staff arweiniol a disgyblion sy’n llysgenhadon rhagddi i rannu syniadau, dulliau a heriau ar y cyd, er mwyn meithrin rhwydwaith mwy eang o bobl sy’n ymroi i greu cymunedau ysgol wrth-hiliol a mwy cynhwysol.

Bydd yr holl grwpiau oedd ynghlwm eleni yn parhau â’u gwaith, gan ychwanegu at yr wybodaeth, yr hyder a’r perthnasoedd a ddatblygwyd drwy gydol y rhaglen. Wrth i’r prosiect barhau i ddatblygu ar hyd a lled Cymru, mae yna gyfleoedd cynyddol i ysgolion a phobl ifanc gysylltu, rhannu dysgu a chryfhau eu hymagweddau tuag at wrth-hiliaeth.

Bwrw golwg tua’r dyfodol

Byddwn yn ategu’r  llwyddiant presennol hwn y flwyddyn nesaf, gyda grwpiau presennol yn parhau i ddatblygu eu gwaith ac ysgolion newydd yn ymuno gydag Arweinwyr Heddiw. Bydd y rhaglen yn parhau i ddatblygu ei waith yng Nghasnewydd, gan gefnogi carfan newydd o ysgolion wrth iddyn nhw sefydlu a datblygu eu grwpiau llysgenhadon gwrth-hiliaeth.

Yn wir, mae Arweinwyr Heddiw yn dangos gwerth cynnig yr wybodaeth, y gofod a’r cymorth i bobl ifanc nodi’r materion sydd o bwys iddyn nhw ac arwain newidiadau ar eu liwt eu hunain. Wrth i’r rhaglen fynd o nerth i nerth, mae’r bobl ifanc hyn yn helpu i feithrin rhwydweithiau gwrth-hiliaeth parhaol yn eu hysgolion a thu hwnt.  

 

Adroddiad Arweinwyr Heddiw (Cymraeg) 

 

Back to News
Join the SRTRC mailing list
Sign up
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.