Diolch am gofrestru ar gyfer Mis Gweithredu Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth 2025. Rydym yn gyffrous i weld y gymuned bêl-droed yn dod at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth drwy gydol mis Hydref.
Y Camau Nesaf:
● Dewiswch ddiwrnod, penwythnos, neu gêm ym mis Hydref i’ch clwb neu’ch tîm gynnal eich digwyddiad cerdyn coch.
● Gofynnwch i’ch chwaraewyr ddal y cardiau coch cyn y gic gyntaf a chymerwch lun o’r garfan gyda’r cardiau.
● Rhannwch eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #MOACYMRU25 a’n tagio ni @theredcardwales.
● Gofynnwch i’ch cefnogwyr, rhieni a gwarcheidwaid dangos y Cardiau Coch gyda’r tîm a rhannu’r lluniau.